Skip to content ↓

Croeso

Croeso i wefan Ysgol Pencae!  

Braint yw eich croesawu i wefan ein hysgol ni, Ysgol Pencae.  Ysgol fechan ydyn ni ym mhentref Llandaf a chyfeiriwn at ein hunain fel Ysgol Bentref yn y Ddinas o ganlyniad i natur gymunedol ac agosatrwydd yr ysgol. 

Ein prif nod yn Ysgol Pencae yw sicrhau bod ein disgyblion yn hapus ac yn treulio eu diwrnodau mewn amgylchedd cynnes a gofalgar sydd yn adnabod anghenion pob  unigolyn.

Mae disgyblion Ysgol Pencae yn cael eu trwytho mewn profiadau ysgogol sydd yn eu datblygu'n ddysgwyr brwdfrydig, yn Gymry balch, yn ffrindiau gofalus ac yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus.  Ymfalchïwn ym mrwdfrydedd heintus ein disgyblion ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol.

Mae gan Ysgol Pencae bedwar werth craidd er mwyn arwain ein gweledigaeth:

Ymdrech a Lwydda Siarad Cymraeg Gyda Balchder Cwrteisi a Pharch Ffrind Da
Gwnawn bob ymdrech i sicrhau bod disgyblion Ysgol Pencae yn manteisio i’r eithaf ar eu haddysg.  Rydym yn meithrin disgyblion uchelgeisiol a galluog sy’n dyfalbarhau er mwyn gwireddu eu dyheadau yn hyderus.    Ysgol Gynradd Gymraeg yw Ysgol Pencae ac mae disgyblion yr ysgol yn wybodus am eu diwylliant a’u treftadaeth ac yn ymfalchïo yn eu gallu i siarad Cymraeg. Yma yn Ysgol Pencae, rydym yn meithrin ein disgyblion i fod yn ddinasyddion hyderus sydd â gwerthoedd cadarn ac yn dangos empathi at eraill ac yn eu trin yn gwrtais a chyda pharch. Cymuned glós yw Ysgol Pencae ac rydym oll yn ffrindiau agos sydd yn gofalu am ein gilydd ar bob achlysur.
       

Partneriaeth yw addysg ac mae’r berthynas agos sydd rhwng yr ysgol a’r cartref yn allweddol wrth i ni gydweithio’n agos er budd addysg a lles y disgyblion.  Rydym yn ysgol sy’n arddel polisi drws agored ac anogwn ein rhieni i ymweld â’r ysgol yn gyson.  Rwyf innau a gweddill y staff ar gael am sgwrs neu i ateb unrhyw gwestiynau.

 

Ysgol Pencae yn morio canu! 

Dyma fideo o holl ddisgyblion Ysgol Pencae yn dathlu eu Cymreictod trwy ganu'r anthem! 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

Gwobrau Ein Hysgol: