Skip to content ↓

Gweledigaeth Cwricwlwm

Yn Ysgol Pencae, bydd ein plant yn unigolion creadigol hapus fydd yn edrych ymlaen yn fawr at ddysgu mewn amgylchedd diogel.  Byddan nhw'n fathemategwyr hyderus, siaradwyr rhugl, yn wyddonol ac yn feirniadol yn eu meddylfryd a fydd yn eu herio i fod yn ddysgwyr annibynnol.  Mewn cymdeithas gynhwysol byddant yn garedig ac yn ystyriol i eraill.  Byddan nhw'n dathlu eu Cymreictod wrth ddysgu am y Byd. Yn ein hysgol bydd y cwricwlwm yn berthnasol, yn fodern ac yn meithrin angerdd am ddysgwyr galluog gydol oes.

Cwricwlwm sydd yn 'sbarduno pob dysgwr

Yn ysgol Pencae, rydym yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn 'sbarduno pob dysgwr.  Rydym yn addysgu yn gyfredol, nid  yn unig o ran cynnwys ond hefyd o ran ein harddulliau addysgu.  Mae ein disgyblion yn frwdfrydig, maen nhw eisiau dysgu ac felly mae'r profiadau yr ydym ni yn eu cynllunio ar eu cyfer yn bwydo'r brwdfrydedd hwn.

Byddwn yn ceisio llais y disgybl am yr hyn man nhw am ddysgu, mae cyfleoedd cyson iddyn nhw lywio eu dysgu eu hunain er mwyn datblygu yn ddysgwyr mentrus, annibynnol sydd yn cymhwyso sgiliau i ddatrys problemau, i ddatblygu syniadau, i fod yn greadigol ac i fod ar daith a fydd yn eu harwain nhw i fod yn  ddysgwyr gydol oes.

Mae Cymru a Chymreictod wrth wraidd ein cwricwlwm - teimlwn yn gryf y dylai'r disgyblion gaffael gwybodaeth a diddordeb yn eu milltir sgwâr, yn hanes a'r ffaith eu bod nhw yn Gymry balch.

Mae ein cwricwlwm yn annog parch - at ein credoau ein hunain yn ogystal â chredoau a thraddodiadau eraill.  Rydym yn dathlu gwahaniaethau ac yn sicrhau bod ein disgyblion yn egwyddorol wrth gamu  allan i'r byd mawr.

Rydym yn dathlu bod bob  dysgwr yn wahanol a chwiliwn am amryw o ffyrdd i'r disgyblion allu dangos eu personoliaethau eu hunain wrth ddysgu, yn aml iawn mae hyn yn digwydd trwy sesiynau Llywio Llwyddiant ac Amdani'n Annibynnol.

Mae ein disgyblion yn datblygu hyder yn eu medrau llythrennedd (Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg), medrau rhifedd a'u medrau digidol.

Wrth gynllunio, sicrhawn fod ein cwricwlwm yn adeiladol a bod ein disgyblion yn datblygu eu medrau er mwyn gwneud cynnydd ym mhob maes dysgu a phrofiad.