Disgyblion Mwy Abl a Thalentog
Rydym yn ymfalchïo yn holl dalentau ein disgyblion. Byddwn yn chwilio am bob cyfle i herio ein disgyblion yn ein gwersi ynghyd â thrwy brofiadau ysgogol a chyffrous a fydd yn deffro uchelgais a brwdfrydedd i ddysgu.
Mae gan yr ysgol achrediad gan elusen NACE (National Association for Able Children in Education) am y profiadau rydym yn cynnig i'n disgyblion.