Skip to content ↓

Ysgol Noddfa

Mae Ysgol Pencae wedi dechrau ar ein taith i ddod yn Ysgol Noddfa gyda’r nod o hyrwyddo diwylliant o groeso, cynhwysiant, goddefgarwch a chyfeillgarwch at bawb - yn enwedig i’r rheiny sy’n ceisio lloches neu sydd yn ffoaduriaid.

Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd ymgorffori'r ethos hwn yn ein cwricwlwm, gan helpu i gefnogi addewid Caerdydd i fod yn Ddinas Noddfa.

Ein nod yw annog ein dysgwyr, staff a’r gymuned ehangach i ddeall beth a olygir wrth ‘ysgol noddfa’ gan estyn llaw cyfeillgarwch a pharhau i adeiladu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

Beth yw Ysgol Noddfa?

● Lle sy'n meithrin diwylliant o groeso a diogelwch i bobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys teuluoedd sydd yn ceisio lloches neu sydd yn ffoaduriaid.

● Addysgu cymuned yr ysgol gyfan am yr hawl i noddfa a nodi dulliau ymarferol i ddangos yr ymrwymiad hwnnw.

● Meithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol trwy hyrwyddo lleisiau a chyfraniadau pobl sy'n ceisio noddfa, annog dealltwriaeth o brofiadau pobl sydd wedi'u dadleoli a helpu i frwydro yn erbyn stereoteipiau.