Scroll to content
Ysgol Pencae

Ysgol Pencae

Ymdrech a Lwydda

Cysylltwch Gyda Ni

Interactive Bar

Search

Ymdrech a Lwydda

Croeso / Welcome

Croeso i wefan Ysgol Pencae!  Welcome to Ysgol Pencae's Website!

 

Braint yw eich croesawu i wefan ein hysgol ni, Ysgol Pencae.  Ysgol fechan ydyn ni ym mhentref Llandaf, Caerdydd a chyfeiriwn at ein hunain fel Ysgol Bentref yn y Ddinas o ganlyniad i natur cymunedol ac agosatrwydd yr ysgol.  Mae disgyblion Ysgol Pencae yn cael eu trwytho mewn profiadau ysgogol sydd yn eu datblygu'n ddysgwyr brwdfrydig, yn Gymry balch, yn ffrindiau gofalus ac yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus.  Ymfalchïwn ym mrwdfrydedd heintus ein disgyblion ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol.

 

Mae gan Ysgol Pencae 4 werth craidd er mwyn arwain ein gweledigaeth:

 

Ymdrech a LwyddaSiarad Cymraeg Gyda BalchderCwrteisi a PharchFfrind Da 

Gwnawn pob ymdrech i sicrhau bod disgyblion Ysgol Pencae yn manteisio i’r eithaf ar eu haddysg.  Rydym yn meithrin disgyblion uchelgeisiol a galluog sy’n dyfalbarhau er mwyn gwireddu eu dyheadau yn hyderus.   

Ysgol Gynradd Gymraeg yw Ysgol Pencae ac mae disgyblion yr ysgol yn wybodus am eu diwylliant a’u treftadaeth ac yn ymfalchïo yn eu gallu i siarad Cymraeg.Yma yn Ysgol Pencae, rydym yn meithrin ein disgyblion i fod yn ddinasyddion hyderus sydd â gwerthoedd cadarn ac yn dangos empathi at eraill ac yn eu trin yn gwrtais a chyda pharch.Cymuned glós yw Ysgol Pencae ac rydym oll yn ffrindiau agos sydd yn gofalu am ein gilydd ar bob achlysur.

 

Partneriaeth yw addysg ac mae’r berthynas agos sydd rhwng yr ysgol a’r cartref yn allweddol wrth i ni gydweithio’n agos er budd addysg a lles y disgyblion.  Rydym yn ysgol sy’n arddel polisi drws agored ac anogwn ein rhieni i ymweld â’r ysgol yn gyson.  Rwyf innau a gweddill y staff wastad ar gael am sgwrs neu i ateb unrhyw gwestiynau.

 

It's a pleasure to welcome you to the website of Ysgol Pencae.  We are a small school in the village of Llandaf, in Cardiff.  We refer to ourselves as a Village School within the City as a result of our community spirit and the warmth of our school.  The pupils of Ysgol Pencae are immersed in exciting experiences that develop them into enthusiastic learners, to be proud of their Welsh heritage, to be close friends and informed, ethical citizens.  We take pride in our pupils enthusiasm to learn in every aspect of school life.

 

At Ysgol Pencae, we have key mottoes that embody our vision:

 

Effort and SuccessSpeaking Welsh with PrideCourtesy and Respect Good Friend
We make every effort to ensure that pupils at Ysgol Pencae make the most of their education. We nurture ambitious and capable pupils who persevere to achieve their aspirations with confidence. Ysgol Pencae is a Welsh-medium primary school and pupils at the school are knowledgeable about their culture and heritage and take pride in their ability to speak Welsh.Here at Ysgol Pencae, we nurture our pupils to be confident citizens who hold firm values ​​and show empathy for others and treat them with courtesy and respect.

Ysgol Pencae is a family and we are all close friends who care for each other at all times.

 

 

Education is a partnership and the close relationship between the school and the home is key as we work closely together for the benefit of the pupils' education and wellbeing. We are a school that operates an open door policy and we encourage our parents to visit the school regularly. Myself and the the staff are always available for a chat or to answer any questions.

Ysgol Pencae yn morio canu! Ysgol Pencae sharing their passion!

Dyma fideo o holl ddisgyblion Ysgol Pencae yn dathlu eu Cymreictod trwy ganu'r anthem! Here is a video of the pupils of Ysgol Pencae celebrating their pride of being Welsh by singing the anthem.

Gwobrau Ein Hysgol:

Top