Scroll to content
Ysgol Pencae

Ysgol Pencae

Ymdrech a Lwydda

Cysylltwch Gyda Ni

Interactive Bar

Search

Ymdrech a Lwydda

Gweledigaeth yr Ysgol / Our Vision

Gweledigaeth yr ysgol: Dyma ein gwerthoedd -

Ymdrech a Lwydda                                     

Cwrteisi a Pharch

Siarad Cymraeg gyda Balchder               

Ffrind Da

 

Mae gweledigaeth yr Ysgol yn sylfaen i holl waith yr Ysgol ac rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i blethu’r 4 diben i fod yn rhan allweddol o fywyd pob dydd y disgyblion.

 

 

School Vision: Here are our vaues -

Effort Leads to Success                                    

Respectful and Courteous

Speak Welsh with Pride              

A Good Friend

 

The vision of the school is the foundation to all our work and we take pride in the fact that we can embed the 4 purposes to be a key part of daily life for the pupils. 

Gweledigaeth ein Cwricwlwm / A Vision for our Curriculum

 

‘Sbarduno disgyblion Ysgol Pencae trwy sylfaeni cadarn a phrofiadau cyffrous i lywio eu haddysgu a bod yn unigolion mentrus, uchelgeisiol, egwyddorol a chreadigol sy’n ddysgwyr gydol oes.'

4 Diben

Mae hawliau plant yn bwysig iawn i Ysgol Pencae ac yn rhan allweddol o ethos yr ysgol!

 

The rights of a child are very important in Ysgol Pencae and are a key aspect of our ethos.

 

Ethos yr Ysgol

Mae ethos yr ysgol yn cael ei grisialu gan y darn isod ac yn plethu'n arbennig gyda hawliau plant.

 

FE DDYSG PLANT YR HYN MAENT YN EI FYW

 

Os bydd plentyn yn byw gyda beirniadaeth

Fe ddysg gondemnio.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda gelyniaeth

Fe ddysg ymladd.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda gwawd

Fe ddysg fod yn swil.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda gwarth

Fe ddysg deimlo'n euog.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda goddefgarwch

Fe ddysg fod yn amyneddgar.

 

Os bydd plentyn yn byw gydag anogaeth

Fe ddysg hyder.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda chanmoliaeth

Fe ddysg werthfawrogi.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda thegwch

Fe ddysg gyfiawnder.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda sicrwydd

Fe ddysg ffydd.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda chymeradwyaeth

Fe ddysg hoffi'i hun.

 

Os bydd plentyn yn byw gyda derbyniad a chyfeillgarwch

Fe ddysg ddarganfod cariad yn y byd.

Top